Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus / Public Accounts Committee
PAC(5)-10-17 PTN 1
Y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
Education and Public Services Group
Nick Ramsay AC
Cadeirydd, Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
9 Mawrth 2017
Annwyl Mr Ramsay,
DIOGELWCH CYMUNEDOL YNG NGHYMRU
Diolch am eich llythyr dyddiedig 9 Chwefror ynghylch adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, Diogelwch Cymunedol yng Nghymru, ac ystyriaethau parhaus y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y pwnc hwn.
Fel y Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol sydd â chyfrifoldeb am y maes gwaith hwn, mae'r Ysgrifennydd Parhaol Shan Morgan wedi gofyn imi ymateb i chi yn uniongyrchol.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant bellach wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig i'r Cynulliad yn dilyn ei gyhoeddiad ar 7 Chwefror i'r cyfarfod llawn ynghylch sefydlu Grŵp Gorchwyl i arwain adolygiad sylfaenol ar weithio mewn partneriaeth yng Nghymru i greu cymunedau mwy diogel, a bydd y datganiad hwn yn rhoi rhagor o fanylion am gwmpas yr adolygiad.
Mae copi o'r datganiad ysgrifenedig Gweithio gyda'n Gilydd i Greu Cymunedau Mwy Diogel, dyddiedig 9 Mawrth, wedi'i atodi, a gobeithio bod hwn yn rhoi eglurhad boddhaol i chi a'ch pwyllgor.
Yn gywir
REG KILPATRICK
Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol /
Director for Local Government
Parc Cathays ●Cathays Park Ffôn ● Tel 029 2082 5913
Caerdydd ●Cardiff reg.kilpatrick@wales.gsi.gov.uk
CF10 3NQ Gwefan ● website: www.wales.gov.uk
Rydym yn croesawu derbyn gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ateb gohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg yn Gymraeg ac ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.
We welcome receiving correspondence in Welsh. Any correspondence received in Welsh will be answered in Welsh and corresponding in Welsh will not lead to a delay in responding.
TEITL |
Gweithio gyda'n Gilydd i greu Cymunedau mwy Diogel |
DYDDIAD |
09 Mawrth 2017 |
GAN |
Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant |
Ar 7 Chwefror, cyhoeddais adolygiad i'r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio gyda'i gilydd i greu cymunedau mwy diogel yng Nghymru. Byddaf yn sefydlu Grŵp Goruchwylio i adolygu'r trefniadau presennol ac i ddatblygu gweledigaeth uchelgeisiol ar y cyd er mwyn i wasanaethau cyhoeddus weithio gyda'i gilydd yn fwy effeithiol.
Diben y grŵp yw sicrhau bod adolygiad safonol yn seiliedig ar ymchwil yn cael ei gynnal yn dilyn cyhoeddi adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru Diogelwch Cymunedol yng Nghymru. Y bwriad yn rhannol fydd mynd i’r afael â materion a godwyd yn y ddogfen honno. Er hynny mae cylch gorchwyl yr adolygiad a’r grŵp yn ehangach na hynny a bydd yn edrych ar sut y gall gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru weithio gyda’i gilydd i helpu i wneud ein cymunedau yn fwy diogel ac i ddatblygu gweledigaeth uchelgeisiol gytûn a fydd yn sail i sefydliadau weithio’n fwy effeithiol gyda’i gilydd.
Bydd y Grŵp Goruchwylio yn cynnwys y partneriaid a'r asiantaethau allweddol - rhai datganoledig a rhai nad ydynt wedi'u datganoli - sy'n gyfrifol am roi'r arweiniad gweledol ac effeithiol sydd ei angen i sicrhau bod partneriaid yn cydweithio mewn ffordd gynaliadwy ar draws Cymru i sicrhau diogelwch cymunedol.
Rwyf am i’r adolygiad gynnwys syniadau uchelgeisiol, a datblygu gweledigaeth glir ar gyfer diogelwch cymunedol a fydd yn gynaliadwy yn yr hirdymor, yn ogystal â bod yn gadarn, yn berthnasol ac yn ymatebol.
Mae bron i 20 mlynedd ers i Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 gael ei chyflwyno, a oedd yn ddeddf arloesol ar y pryd. Ynddi, pennwyd gofyniad statudol i wasanaethau cyhoeddus weithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth i wella diogelwch cymunedol. Nawr, mae gennym gyfle newydd drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i bennu dull cynaliadwy o weithio mewn partneriaeth yng Nghymru, a fydd yn creu cymunedau mwy diogel ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Bydd yr adolygiad yn sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa well - drwy gydweithio ag asiantaethau a phartneriaid nad ydynt wedi'u datganoli a thrwy'r amcanion llesiant a gyhoeddwyd ochr yn ochr â Rhaglen Lywodraethu Symud Cymru Ymlaen - i roi arweiniad effeithiol i'r gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru sy'n helpu i greu cymunedau mwy diogel.
Bydd yr adolygiad yn ceisio:
Bydd cwmpas yr adolygiad yn ystyried y cyd-destun gwleidyddol a pholisi ehangach gan gynnwys:
Nid yw'n fwriad gen i i greu grŵp a fydd ddim ond yn trafod y materion, ond yn hytrach un a fydd yn cynnig arbenigedd go iawn yn y maes ac a fydd â'r hygrededd i wneud newidiadau go iawn. Bydd y Grŵp Goruchwylio yn cael ei symleiddio a bydd yn cynnwys nifer bach o gynrychiolwyr o'r gwasanaethau allweddol sef llywodraeth leol, gwasanaethau tân ac achub, Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru, penaethiaid yr heddlu, gwasanaethau prawf a charchardai, Cyfiawnder Cymunedol Cymru ac Adrannau Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, bydd yr adolygiad ei hun mor gynhwysol â phosibl.
Rwy'n rhagweld y bydd cyfarfod cyntaf y Grŵp Goruchwylio yn cael ei gynnal ddechrau mis Mawrth, gyda’r cylch gorchwyl a'r cwestiynau i'w holi i randdeiliaid yn cael eu cyhoeddi yn fuan wedi hynny yn ystod ymgynghoriad yn yr haf, pan fydd tystiolaeth, ymchwil a safbwyntiau hefyd yn cael eu casglu.
Tra bydd y Grŵp Goruchwylio yn gweithio ar ddatblygu gweledigaeth ar gyfer diogelwch cymunedol yng Nghymru, nid oes reswm dros laesu dwylo â’r gwaith yn lleol yn y cyfamser. Mae Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru wedi dangos awydd cryf i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’u partneriaid lleol i ailwampio’r modd y caiff diogelwch cymunedol ei sicrhau o fewn ardaloedd eu heddluoedd.
Mae’n dda gen i gefnogi ymrwymiad pob Comisiynydd i weithio gyda’r Prif Gwnstabl a’r awdurdodau lleol i adfywio gwaith diogelwch cymunedol yn eu hardaloedd. Byddwn yn annog pob sefydliad i fynd ati i weithio gyda hwy ar yr agenda yma. Bydd yr hyn a wneir ar lawr gwlad yn sail i waith y Grŵp Goruchwylio ac yn cyfrannu at y gwaith uchelgeisiol rydw i’n ei hyrwyddo.
Fy mwriad yw cyhoeddi'r canfyddiadau a'r argymhellion drafft ym mis Medi. Bydd hyn felly yn galluogi Llywodraeth Cymru i gynnal cyfres o ddigwyddiadau rhanbarthol, amlasiantaethol gyda rhanddeiliaid i brofi a chwblhau ein cydweledigaeth ar gyfer cymunedau mwy diogel i genedlaethau'r dyfodol cyn imi wneud Datganiad i'r Cynulliad yn yr Hydref, yn amlinellu'r ffordd ymlaen.
Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo i ddatblygu cylch gorchwyl drafft ar gyfer y Grŵp Goruchwylio a'r adolygiad, ar y trywydd rwyf wedi'i amlinellu, ac i adnabod a chysylltu â'r ystod eang o randdeiliaid, rhwydweithiau a grwpiau, a fydd yn cael eu cynnwys mewn proses ymgynghori drwy raglen allgymorth helaeth yn ystod y misoedd nesaf.